[Menai-LUG] O Lydaw i Gymru!

Kevin Donnelly kevin at dotmon.com
Tue Oct 5 14:46:56 BST 2004


1.  Mae Thierry Vignaud wedi cyfrannu bron 10,000 o gyfieithiadau i Kyfieithu 
gan ddefnyddio sgriptiau sy'n copïo cyfieithiadau wedi'u cwblhau i lefydd 
eraill yn y ffeiliau.  Mae hyn wedi ychwanegu 6% i'r cyfanswm.  Mae 
KDE/KOffice wedi cyrraedd 55% rwan.  Gweler 
http://www.cymrux.org.uk/item.php?lg=cy&item_id=14

2.  Mae'r wefan Kyfieithu wedi ei symleiddio, ac is-gywaith newydd wedi'i 
ddechrau.  Bydd "Hwyl a Sbri" yn cyfieithu'r 29 gêm sy'n dod efo KDE, ac 
ychwanegu 4% rhagor i'r cyfanswm.  Mae 17% o'r llinynnau wedi cael eu 
cyfieithu eisoes.  Gweler http://kyfieithu.co.uk

3.  Mae'r 8,000 cyfieithiad o KOffice (gweler 
http://www.cymrux.org.uk/item.php?lg=cy&item_id=9) wedi eu hychwanegu i 
Kywiro, sy'n cynnwys bron 117,000 o linynnau rwan.  Gweler 
http://www.kyfieithu.co.uk/kywiro

[Latest news on the translation work.  Visit http://www.cymrux.org.uk for the 
full stories.]

-- 

Pob hwyl (Best wishes)

Kevin Donnelly

www.kyfieithu.co.uk - Meddalwedd Rhydd yn Gymraeg
www.cymrux.org.uk - Linux Cymraeg ar un CD!



More information about the Menai mailing list