[Menai-LUG] KOffice yn Gymraeg / KOffice in Welsh

Kevin Donnelly kevin at dotmon.com
Fri Sep 24 12:49:03 BST 2004


[ NOTE: The English version follows the Welsh one. ]

[ WELSH VERSION BEGINS]

24 Medi 2004

Kywaith Kyfieithu

CASGLIAD NEWYDD O FEDDALWEDD SWYDDFA AR GAEL YN GYMRAEG

1. Mae Kywaith Kyfieithu (http://www.kyfieithu.co.uk) yn falch o gyhoeddi 
rhyddhad KOffice 1.3.3 yn Gymraeg. Mae KOffice (http://www.koffice.org) yn 
gasgliad o feddalwedd swyddfa llawn o nodweddion ar gyfer cyfrifiaduron sy'n 
rhedeg Linux.  Bydd ar gael am ddim efo'r mwyafrif o ddosbarthiadau Linux, yn 
cynnwys y fersiwn nesaf o Gymrux, y CD Linux-yn-Gymraeg 
(http://www.cymrux.org.uk). 

2. Mae'r cyfieithiad newydd yn golygu bod gan Linux rwan ddau gasgliad o 
feddalwedd swyddfa yn Gymraeg, ac mae'n dangos faint o bwyslais y rhoir ar yr 
iaith gan y mudiad meddalwedd rhydd yng Nghymru.   Mae  sgrinluniau o'r 
cyfieithiad KOffice ar y wefan Cymrux (http://www.cymrux.org.uk/koffice).

3. Mae KOffice yn cynnwys y rhaglenni hanfodol y disgwylir eu gweld mewn 
casgliad swyddfa:
KWord, rhaglen prosesu geiriau a chyhoeddi penbwrdd sy'n debyg i FrameMaker;
KSpread, taenlen efo cefnogaeth lawn ar gyfer fformiwliau ac ystadegau
KPresenter, rhaglen cyflwyniadau efo popeth sydd angen i wneud argraff dda ar 
eich cynulleidfa.

4. Ond mae KOffice hefyd yn cynnwys rhai rhaglenni gwych ychwanegol:
Kivio, rhaglen siartiau llif a diagramau sy'n debyg i Microsoft Visio (y tro 
cyntaf erioed i raglen benodol fel hon ymddangos yn Gymraeg);
Karbon, rhaglen graffeg sy'n debyg i Adobe Illustrator, ar gyfer creu 
delweddau sy'n edrych yn dda beth bynnag eu maint;
Kugar, rhaglen creu adroddiadau sy'n debyg i Crystal Reports, ar gyfer 
cyflwyno gwybodaeth o gronfa ddata yn ddeniadol mewn ffurf argraffedig.

5. Ac i orffen y casgliad, dyma un neu ddau o bethau eraill:
KFormula, golygydd fformiwlau fydd yn wych ar gyfer gwaith cartref mathamateg 
a gwyddoniaeth;
KThesaurus, i chwilio am cyfystyron ar gyfer geiriau cyffredin yn Saesneg;
KChart, i gynhyrchu siartiau hardd o amrediad o ffigurau.

6. Roedd trosi KOffice i Gymraeg yn golygu cyfieithu bron 8,000 darn o destun, 
ac mae'n ganlyniad o 5 mis o waith gan wirfoddolwyr Kywaith Kyfieithu (diolch 
arbennig i Peter Bradley, jr, pixelM, HywelR, apRhisiart, kilo, a rhys, ac i 
Thorben Jändling am gymorth dechnegol), a ddefnyddiodd y teclyn cyfieithu 
dros y we, Kartouche (http://www.kyfieithu.co.uk/kartouche), a'r gronfa ddata 
cyfieithu, Kywiro (http://www.kyfieithu.co.uk/korrect).

7. Dywedodd Kevin Donnelly, cyd-drefnydd y gwaith cyfieithu: "Mae'r holl waith 
a wnaed gan y gwirfoddolwyr Kyfieithu wedi mynd â ni un cam yn bellach at ein 
amcan o greu cyfrifiadur hollol Gymraeg, yn rhedeg ar y cysawd gweithredu 
sy'n tyfu fwyaf yn y byd ar hyn o bryd, ac yr un sydd mewn ail le o safbwynt 
poblogrwydd ar gyfer defnydd penbwrdd.  Mae Linux yn arbennig o dda ar gyfer 
ieithoedd fel Cymraeg, a gafodd eu hanwybyddu yn y gorffenol gan cynhyrchwyr 
mawr meddalwedd, o achos mae'n gadael i'r defnyddiwr newid yn ôl ac ymlaen 
rhwng ieithoedd, ac nid oes angen arsefydlu rhaglenni ychwanegol arbennig i 
drin acenion fel y to bach (^). Rydym yn credu y bydd KOffice yn rhoi cyfle 
ardderchog i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg ddefnyddio'r iaith mewn rhan arall o 
fywyd bob dydd".

Nodiadau:

(i) Cylch o wirfoddolwyr ledled Cymru yw Kywaith Kyfieithu 
(http://www.kyfieithu.co.uk), efo'r amcan o gynyddu defnydd Cymraeg ar 
gyfrifiaduron.  Lansiwyd y cywaith ar Ddydd Gŵyl Dewi, 2003, a rhyddhawyd CD 
o feddalwedd yn Gymraeg (Cymrux) yn Eisteddfod yr Urdd 2004 
(http://www.cymrux.org.uk).

(ii) Creuir "meddalwedd rhydd" gan wirfoddolwyr ledled y byd, a gellir ei roi 
i ffwrdd am ddim.  Rydym yn credu y dylai pawb gael defnyddio meddalwedd o 
ansawdd uchel yn ei iaith ei hun, heb orfod talu llawer o bres amdano.  
Gweler gwefan yr Association for Free Software (http://www.affs.org.uk) am 
fwy o wybodaeth.

(iii) Un o'r rhyngwynebau mwyaf poblogaidd ar gyfer Linux yw KDE 
(http://www.kde.org) - mae'n cynnig amrediad llawn o offer a rhaglenni i 
wneud gweithio efo'ch cyfrifiadur yn hawdd.  Mae bron 1,000 o wirfoddolwyr 
ledled y byd yn gweithio ar y cywaith KDE.



[ENGLISH VERSION BEGINS]

24 September 2004

Kywaith Kyfieithu

NEW OFFICE SUITE AVAILABLE IN WELSH

1. Kywaith Kyfieithu (http://www.kyfieithu.co.uk) is pleased to announce the 
release of KOffice 1.3.3 in Welsh. KOffice (http://www.koffice.org) is a 
full-featured office suite for the Linux desktop, and will be available for 
free with most Linux distributions, including the next version of Cymrux, the 
Linux-in-Welsh CD (http://www.cymrux.org.uk). 

2. The new translation means that Linux now has two office suites in Welsh, 
and demonstrates the increasing momentum behind the free software movement in 
Wales. Screenshots of the KOffice translation are on the Cymrux website 
(http://www.cymrux.org.uk/koffice).

3. KOffice includes the essential programs you would expect to see in an 
office suite:
KWord, a frame-based word-processing and desktop publishing program similar to 
FrameMaker;
KSpread, a spreadsheet with full support for complex formulae and statistics;
KPresenter, a presentation program with everything you need to make a good 
impression.

4. But KOffice also includes some great additional programs:
Kivio, a flowcharting and diagramming program similar to Microsoft Visio (the 
first time that a dedicated program like this has appeared in Welsh);
Karbon, a graphics program similar to Adobe Illustrator, for creating images 
which look good at any size;
Kugar, a report generator similar to Crystal Reports, for presenting database 
information attractively in printed form.

5. And to round the suite off, there are a few little extras:
KFormula, a powerful formula editor that will be great for maths and science 
homework;
KThesaurus, to look up synonyms for common words in English;
KChart, to produce good-looking charts from a range of figures.

6. KOffice in Welsh involved the translation of nearly 8,000 pieces of text, 
and is the result of 5 months work by Kywaith Kyfieithu volunteers (especial 
thanks to Peter Bradley, jr, pixelM, HywelR, Peter Richards, kilo, and rhys, 
and Thorben Jändling for technical assistance) who used the Kyfieithu 
web-based translation system (http://www.kyfieithu.co.uk/kartouche) and the 
Korrect translation database (http://www.kyfieithu.co.uk/korrect).

7. Kevin Donnelly, co-ordinator of the translation project, said: "All the 
work put in by the Kyfieithu volunteers has taken us one step further towards 
our goal of creating an entirely Welsh desktop, running on the 
fastest-growing operating system in the world at the moment, and the second 
most popular operating system for desktop use. Linux is especially good for 
languages such as Welsh, which have been ignored in the past by large 
software makers, because it allows the user to switch back and forth between 
several languages, and there is no need to install special add-in programs to 
handle accent marks like the "to bach" (^). We believe that KOffice gives 
Welsh speakers and learners a great opportunity to use Welsh in another area 
of daily life".


Notes:

(i) Kywaith Kyfieithu (http://www.kyfieithu.co.uk) is a group of volunteers  
throughout Wales, whose aim is to increase the use of Welsh on computers.  
The project was launched on St David's Day, 2003, and a CD of software in 
Welsh (Cymrux) was released at the Urdd Eisteddfod 2004 
(http://www.cymrux.org.uk).

(ii) "Free software" is created by volunteers around the world, and given away 
for free.  We believe that everyone should be able to use high-quality 
software in his/her own language, without having to pay large sums of money 
for it.  See the website of the Association for Free Software 
(http://www.affs.org.uk) for more information.

(iii) KDE is one of the most popular interfaces for Linux - it offers a full 
range of programmes to make working with your computer easy.  Almost 1,000 
volunteers worldwide are working on the KDE project.

-- 

Pob hwyl (Best wishes)

Kevin Donnelly

www.kyfieithu.co.uk - Meddalwedd Rhydd yn Gymraeg
www.cymrux.org.uk - Linux Cymraeg ar un CD!



More information about the Menai mailing list