[SWLUG] Re: Eisteddfod

Peter (dsl) apvx95 at dsl.pipex.com
Thu Jun 24 21:25:36 UTC 2004


I've recently received this from Kevin Donnelly (KGyfieithu):

<snip />
Yn anffodus, ni fyddai'i yma pan mae'r Genedlaethol
arnodd, ond buasai hi'n biti colli'r momentwm gawsom yn E yr Urdd.  Dwi
hanner ffordd drwy ysgrifennu fersiwn newydd o Hollysydd (Kywiro) fydd yn
gadael i bobl gywiro'r cyfieithiadau.  Mae llawer o lythyrau i fynd allan
hefyd, a dwisho cysylltu â'r papurau bro.  Buasai'n dda cael rhywun sydd yn
yr Eisteddfod - dwi'n gwerthfawrogi'r ymdrech!

Na'i anfon twb o ddisgiau i chi (tua 80 - bydd hynny'n iawn?) - does dim
angen
talu.  Dwi'n gallu anfon rhai posteri IBM a pens SUSE ac IBM hefyd (i roi i
blant pobl efo diddordeb!).  Mae'n debyg y bydd fersiwn newydd o Gymrux
erbyn
yr adeg yna, felly na'i ychwanegu dogfennaeth i adlewyrchu hynny.  Na'i
anfon
y "sgript" roeddwn i'n defnyddio efo pobl hefyd - does dim angen i chi
ddilyn
hyn, ond efallai bydd o ddefnydd.

Ydych chi'n meddwl fydd hi'n bosibl gael stondin, neu be?  Roedd y Cyngor
Sir
yma yn glên iawn i ni, yn arbennig y rhai llyfrgelloedd.


Peter






More information about the Swlug mailing list