[SWLUG] Fwd: Y Rhyddid i Instalio Meddalwedd

Peter Bradley p.bradley at dsl.pipex.com
Sun Jun 3 15:14:57 UTC 2012


Hi everybody,

In the message below, I'm trying to get Julie Morgan interested in 
investigating Microsoft's proposal to prevent the installing of other 
operating systems on boxes bought with Windows 8 on them.  If anyone 
else would like to write to her, or any other members of the cynulliad, 
I'm sure it would help.

Joining the FSF's campaign 
<http://www.fsf.org/campaigns/secure-boot-vs-restricted-boot/statement> 
might help as well, if anyone's interested.

Cheers


Peter

-------- Mensaje original --------
Asunto: 	Y Rhyddid i Instalio Meddalwedd
Fecha: 	Sat, 02 Jun 2012 09:42:49 +0100
De: 	Peredur <peredur at peredur.net>
Para: 	Julie.Morgan at Cymru.gov.uk



Ys gwn i a fyddai diddordeb gennych yn y mater hwn 
<http://www.fsf.org/campaigns/secure-boot-vs-restricted-boot/statement>?

Y cefndir ydi hyn.  'Dwi'n defnyddio cyfrifiaduron yn helaeth ond nid 
Windows.  Fy newis i ydi i ddefnyddio Linux, a dwi'n cymryd mai nid hyn 
ydi'r lle i fynd i fewn i'r rhesymau am hyn.  Mae hi'n ddewis dwi'n 
credu bod hawl gan gwsmeriaid i'w gymryd, a dyna fo.

Ar hyn o bryd, y mae hi'n anodd iawn prynu cyfrifiadur PC heb Windows 
wedi'i osod arno.  Gellid prynu gan ychydig o ddarparwyr arbennigol fel 
y Linux Emporium <http://www.linuxemporium.co.uk/>, ond mae eu prisiau 
nhw llawer uwch na'r prisiau ar gyfer peiriannau tebyg yn PC World, John 
Lewis, Amazon ac yn y blaen - o gymharu tebyg am ei debyg - am nad ydyn 
nhw'n gallu manteisio ar economiau maint, fel y gall cwmniau mawr fel 
Dell.  Felly yr hyn yr wyf i, a llawer iawn o bobl eraill, yn ei wneud 
ydi'i brynu system Windows ac wedyn instalio Linux drosto fo, gan ddileu 
Windows yn llwyr.  Mae hynny'n golygu gwastraffu rhyw £30.00 ar drwydded 
Windows ddi-angen, ond mae'n rhatach o hyd na phrynu mewn man arall.

Byswn i'n dadlau bod hynny'n ddigon anheg, ac na dylwn i gael fy 
ngorfodi (yn ymarferol) i brynu PC Windows ("Illegal bundling" yn fy 
marn i).  Ond dyna fo.  Dach chi ddim yn gallu cwffio ar bob ffrynt.

Ond os bydd Microsoft yn llwyddo, gyda'r cynnig newydd yma, i wneud beth 
maen nhw'n bygwth ei wneud, bydd hi'n amhosibl imi osod Linux ar 
gyfrifiadur a brynwyd gyda Windows arno, o gwbl.

Credaf bod hynny'n groes i fy hawliau fel cwsmer ac yn groes i 
egwyddorion masnach deg.  Dwi ddim yn credu y dylai defnyddwyr Linux 
(neu systemau eraill megis BSD, er enghraifft) gael eu cosbi'n ariannol 
am ddewis OS arall: yn enwedig pan fydd yr OS hwnnw'n rhad ac am ddim.

Tybed a fyddai diddordeb gennych mewn edrych i fewn i hyn a cheisio 
unioni'r cam os ydych chi'n cytuno bod 'na gam, ar ol i chi ymchwilio?

Yr wyf bob amser yn barod i gynorthwyo, wrth gwrs.  Pe byddai diddorddeb 
gennych, na fyswn i ddim yn disgwyl ichi ysgwyddo'r baich heb gymorth.  
Felly dwi'n hollol hapus i helpu gydag ymchwil a chyda fy ngybodaeth 
bersonal.

Pe hoffech chi gael mwy o fanylion, gan gynnwys gwybodaeth am bobl 
eraill fyddai a diddordeb mewn cefnogi fy safbwynt, cysylltwch hefo fi, 
da chi.

Yn gywir,


Peter
-- 
*Peter Bradley*
peredur.net <http://www.peredur.net>
-------------- next part --------------
An HTML attachment was scrubbed...
URL: <http://mailman.lug.org.uk/pipermail/swlug/attachments/20120603/37819b18/attachment.html>


More information about the Swlug mailing list