<html>
<head>
<meta http-equiv="content-type" content="text/html;
charset=ISO-8859-1">
</head>
<body bgcolor="#FFFFFF" text="#000000">
Hi everybody,<br>
<br>
In the message below, I'm trying to get Julie Morgan interested in
investigating Microsoft's proposal to prevent the installing of
other operating systems on boxes bought with Windows 8 on them. If
anyone else would like to write to her, or any other members of the
cynulliad, I'm sure it would help.<br>
<br>
Joining the <a moz-do-not-send="true"
href="http://www.fsf.org/campaigns/secure-boot-vs-restricted-boot/statement">FSF's
campaign</a> might help as well, if anyone's interested.<br>
<br>
Cheers<br>
<br>
<br>
Peter<br>
<br>
-------- Mensaje original --------
<table class="moz-email-headers-table" border="0" cellpadding="0"
cellspacing="0">
<tbody>
<tr>
<th align="RIGHT" nowrap="nowrap" valign="BASELINE">Asunto: </th>
<td>Y Rhyddid i Instalio Meddalwedd</td>
</tr>
<tr>
<th align="RIGHT" nowrap="nowrap" valign="BASELINE">Fecha: </th>
<td>Sat, 02 Jun 2012 09:42:49 +0100</td>
</tr>
<tr>
<th align="RIGHT" nowrap="nowrap" valign="BASELINE">De: </th>
<td>Peredur <a moz-do-not-send="true"
class="moz-txt-link-rfc2396E"
href="mailto:peredur@peredur.net"><peredur@peredur.net></a></td>
</tr>
<tr>
<th align="RIGHT" nowrap="nowrap" valign="BASELINE">Para: </th>
<td><a moz-do-not-send="true" class="moz-txt-link-abbreviated"
href="mailto:Julie.Morgan@Cymru.gov.uk">Julie.Morgan@Cymru.gov.uk</a></td>
</tr>
</tbody>
</table>
<br>
<br>
<meta http-equiv="content-type" content="text/html;
charset=ISO-8859-1">
Ys gwn i a fyddai diddordeb gennych yn <a moz-do-not-send="true"
href="http://www.fsf.org/campaigns/secure-boot-vs-restricted-boot/statement">y
mater hwn</a>?<br>
<br>
Y cefndir ydi hyn. 'Dwi'n defnyddio cyfrifiaduron yn helaeth ond
nid Windows. Fy newis i ydi i ddefnyddio Linux, a dwi'n cymryd mai
nid hyn ydi'r lle i fynd i fewn i'r rhesymau am hyn. Mae hi'n
ddewis dwi'n credu bod hawl gan gwsmeriaid i'w gymryd, a dyna fo.<br>
<br>
Ar hyn o bryd, y mae hi'n anodd iawn prynu cyfrifiadur PC heb
Windows wedi'i osod arno. Gellid prynu gan ychydig o ddarparwyr
arbennigol fel <a moz-do-not-send="true"
href="http://www.linuxemporium.co.uk/">y Linux Emporium</a>, ond
mae eu prisiau nhw llawer uwch na'r prisiau ar gyfer peiriannau
tebyg yn PC World, John Lewis, Amazon ac yn y blaen - o gymharu
tebyg am ei debyg - am nad ydyn nhw'n gallu manteisio ar economiau
maint, fel y gall cwmniau mawr fel Dell. Felly yr hyn yr wyf i, a
llawer iawn o bobl eraill, yn ei wneud ydi'i brynu system Windows ac
wedyn instalio Linux drosto fo, gan ddileu Windows yn llwyr. Mae
hynny'n golygu gwastraffu rhyw £30.00 ar drwydded Windows ddi-angen,
ond mae'n rhatach o hyd na phrynu mewn man arall.<br>
<br>
Byswn i'n dadlau bod hynny'n ddigon anheg, ac na dylwn i gael fy
ngorfodi (yn ymarferol) i brynu PC Windows ("Illegal bundling" yn fy
marn i). Ond dyna fo. Dach chi ddim yn gallu cwffio ar bob ffrynt.<br>
<br>
Ond os bydd Microsoft yn llwyddo, gyda'r cynnig newydd yma, i wneud
beth maen nhw'n bygwth ei wneud, bydd hi'n amhosibl imi osod Linux
ar gyfrifiadur a brynwyd gyda Windows arno, o gwbl.<br>
<br>
Credaf bod hynny'n groes i fy hawliau fel cwsmer ac yn groes i
egwyddorion masnach deg. Dwi ddim yn credu y dylai defnyddwyr Linux
(neu systemau eraill megis BSD, er enghraifft) gael eu cosbi'n
ariannol am ddewis OS arall: yn enwedig pan fydd yr OS hwnnw'n rhad
ac am ddim.<br>
<br>
Tybed a fyddai diddordeb gennych mewn edrych i fewn i hyn a cheisio
unioni'r cam os ydych chi'n cytuno bod 'na gam, ar ol i chi
ymchwilio?<br>
<br>
Yr wyf bob amser yn barod i gynorthwyo, wrth gwrs. Pe byddai
diddorddeb gennych, na fyswn i ddim yn disgwyl ichi ysgwyddo'r baich
heb gymorth. Felly dwi'n hollol hapus i helpu gydag ymchwil a chyda
fy ngybodaeth bersonal.<br>
<br>
Pe hoffech chi gael mwy o fanylion, gan gynnwys gwybodaeth am bobl
eraill fyddai a diddordeb mewn cefnogi fy safbwynt, cysylltwch hefo
fi, da chi.<br>
<br>
Yn gywir,<br>
<br>
<br>
Peter<br>
<div class="moz-signature">-- <br>
<b>Peter Bradley</b><br>
<a moz-do-not-send="true" href="http://www.peredur.net">peredur.net</a></div>
</body>
</html>